Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth: Lansio’r Adroddiad 'Llwybrau i 2030'

Dydd Mawrth 28 Mawrth 2023, 12pm - 1:30pm

Ystafelloedd Seminar 1 a 2, Adeilad y Pierhead

 

Yn bresennol

John Griffiths AS – cadeirydd

Llafur

Delyth Jewell AS – is-gadeirydd

Plaid

Mark Isherwood AS

Ceidwadwyr

Andrew Bettridge

Swyddfa John Griffiths

Martyn Evans

Cyfoeth Naturiol Cymru

Elfyn Henderson

Y Gwasanaeth Ymchwil

Sian Davies

Archwilio Cymru

Steven Griffiths

Cyfarwyddwr, BASC

Mark Steer

Grŵp Ffwng Morgannwg

Liz Smith - ysgrifenyddiaeth

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Julie Richards

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Kate Rees

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Chloe Wenman

Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

Eben Muse

BMC

Tessa Marshall

WWF

Annie Smith

RSPB

Rowena Haines

RSPB

Laura Cropper

RSPB

Alex Phillips

WWF

Andrew Tuddenham

Cymdeithas y Pridd

Clare Dinham

Buglife

Rebecca Brough

Y Cerddwyr

Gareth Ludkin

Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol

Gethin Jenkins-Jones

Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid - Climate Cymru

David Kilner

Ymgyrchydd Natur Bositif – Climate Cymru

Shea Buckland-Jones

WWF

Lorna Scurlock

Y Gwasanaeth Ymchwil

Rachel Sharp

Ymddiriedolaethau Natur Cymru – siaradwr

Natalie Buttriss

Coed Cadw – siaradwr

Matt Rayment

Economegydd ac awdur yr adroddiad – siaradwr

 

Cofnodion

 

Mae'r cyflwyniadau o'r cyfarfod hwn ar gael i'w gweld drwy’r linc hwn ac mae'r adroddiad ar gael mewn sawl fformat yma: https://waleslink.org/cy/llwybrau-i-2030/[HS(CyS|SC1] 

 

Mae'r cofnodion hyn yn rhai lefel uchel ac mae’n well edrych arnynt ochr yn ochr â'r cyflwyniad a’r adroddiad i gael yr holl wybodaeth.

 

1)      Cyflwyniadau

 

Agorodd John Griffiths y cyfarfod, gan nodi bod yr adroddiad yn dilyn COP 15 ac argymhellion yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth ar adfer byd natur. Nododd fod yr atebion ar sail natur sydd eu hangen i gyflawni'r ymrwymiadau yn werth ychydig yn llai na £600m, yr oedd Matt Rayment - awdur yr adroddiad - wedi’i gyfrifo i fod yn £158m ychwanegol y flwyddyn, gan gynnwys adlinio'r gwariant presennol i ryw raddau. Parhaodd John fod rhai o'r camau gweithredu yn costio dim, gan fod hynny’n golygu bod angen rhoi'r gorau i weithgareddau niweidiol neu newid arferion, fel peidio â defnyddio plaladdwyr artiffisial mwyach.

 

2)      Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Fel cyfarfod cyntaf 2023, cynhaliodd John ofynion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Enwebodd Delyth Jewell ef yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan Mark Isherwood. Yna, enwebwyd Delyth gan John yn Is-gadeirydd, ac eto eiliwyd hynny gan Mark. Yn olaf, cynigiodd John fod Cyswllt Amgylchedd Cymru yn parhau’n ysgrifenyddiaeth, a chefnogodd Mark a Delyth hynny.

 

3)      Lansio’r adroddiad – cyflwyniadau

 

Gan droi at y cyflwyniadau, rhoddodd Matt Rayment grynodeb o strwythur yr adroddiad, gyda'r camau gweithredu wedi'u trefnu o dan y penawdau 'Atal', 'Dechrau' a 'Lleihau'. Cyfeiriodd at argymhellion mwy penodol o’r Archwiliad Dwfn, gan gynnwys 'Rhyddhau cyllid cyhoeddus a phreifat ychwanegol er mwyn cyflawni ar gyfer natur yn gyflymach ac ar raddfa fwy'. Dywedodd y byddai hyn yn rhan annatod o’r ymgais i adfer byd natur.

 

Disgrifiodd Matt y £158m sydd ei angen yn flynyddol, gan ychwanegu bod hyn yn dibynnu ar yr angen i’r gyllideb ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig ganolbwyntio’n fwy ar natur hefyd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol.

 

Trafododd Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw, feysydd yr adroddiad sy'n canolbwyntio’n fwy ar dir, megis tir fferm, mawn, glaswelltiroedd a choed. Cyfeiriodd at gamau gweithredu 'atal', fel 'colledion gofod hygyrch sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt mewn trefi' a dangos llun o goed trefol yn cael eu cwympo'n ddiangen. Roedd camau gweithredu 'lleihau' yn cynnwys effaith rhywogaethau goresgynnol. Siaradodd Natalie am yr effeithiau niweidiol pan fydd rhododendron yn cymryd drosodd ardaloedd naturiol, yn enwedig coetiroedd, a dywedodd y dylai rheoli a monitro gwell leihau effeithiau negyddol rhywogaethau goresgynnol. Yn olaf, wrth siarad am gamau gweithredu 'dechrau', cyfeiriodd at adfer mawndiroedd, glaswelltiroedd a choetiroedd; sicrhau bod safleoedd gwarchodedig mewn cyflwr da; rhagor o raglenni adfer rhywogaethau; a sefydlu'r corff hwyr i gynnal cyfraith amgylcheddol a chynnal ymchwiliadau i achosion o’i thorri.

 

Rhoddodd Natalie enghreifftiau o arfer gorau, gan dynnu sylw at y Goedwig Genedlaethol - ffordd o sicrhau buddsoddiad gan y sector cyhoeddus, gyda Llywodraeth Cymru yn arwain ac yn cydlynu'r gwaith o'i greu - a phrosiect LIFE Coedwigoedd Glaw Celtaidd yr UE ar gyfer adfer a rheoli coedwigoedd glaw tymherus yng Nghymru.

 

Gan symud ymlaen i feysydd sy’n canolbwyntio ar foroedd ac arfordiroedd, amlinellodd Rachel Sharp - Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru - yr angen i warchod ac adfer cynefinoedd morol (megis morwellt, morfa heli a gwlyptiroedd) ac i fynd i'r afael ag arferion pysgodfeydd anghynaliadwy. Tynnodd sylw at y broses hir-ddisgwyliedig o ddynodi Parthau Cadwraeth Morol, a galwadau Cyswllt Amgylchedd Cymru am Gynllun Datblygu Morol, i ystyried yr holl bwysau diwydiannol ar y môr yn gyfannol ac i gynllunio mewn cytgord â byd natur.

 

O ran arfer gorau, trafododd Rachel yr unig Barth Cadwraeth Morol sydd wedi ei ddynodi hyd yma yng Nghymru, sef Ynys Skomer. Rheolir hwn gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ochr yn ochr ag is-ddeddfau Parthau Cadwraeth Morol a weithredir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Pwysleisiodd hefyd yr angen am ragor o adnoddau ar gyfer tystiolaeth a data, ynghyd â'r adnoddau dynol sydd eu hangen i weithredu hynny. Tynnodd Rachel sylw hefyd at Project Seagrass, sy’n sianelu buddsoddiad i adfer y cynefin gwerthfawr, rhwng WWF, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Ardal Cadwraeth Arbennig leol a Phrifysgol Abertawe.

 

4)      Trafodaeth

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, cafwyd trafodaeth agored yn yr ystafell. Gwnaed y pwyntiau a ganlyn:

·         Pwysleisiodd David Kilner, o Climate Cymru, fod angen i Lywodraeth Cymru a phartneriaid weithredu ar fyrder.

·         Mae Andrew Tuddenham, o Gymdeithas y Pridd, yn nodi bod ffigur y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn yr adroddiad yn seiliedig ar fodelu blaenorol, a bod angen adeiladu modelau ychwanegol i'w wneud yn fwy dibynadwy. Awgrymodd hefyd y byddai manteision ychwanegol i’r economi sylfaenol y dylid eu hystyried. Ymatebodd Matt Rayment gan gytuno bod y ffigurau yn deillio o'r cyfnod cyn i'r Bil Amaethyddiaeth gael ei gyflwyno a’u bod yn seiliedig ar ddadansoddi’n eang reoli tir amgylcheddol. Cytunodd hefyd nad yw cynigion y Bil Amaethyddiaeth yn mynd yn ddigon pell, a phwysleisiodd y byddai'r manteision yn rhagori ar y costau o lawer, gan gyfeirio at arbedion iechyd a llesiant i'r GIG a’r ffaith nad yw dŵr a rheoli llifogydd ond yn ddwy enghraifft o wariant ataliol.

·         Dywedodd Rachel Sharp, o'r Ymddiriedolaeth Natur, y dylai hyn gael ei gyfathrebu'n gryfach i'r cyhoedd, bod £7 yn cael ei harbed ar gyfer y GIG am bob punt sy'n cael ei gwario ar natur. A chan ei fod yn arian trethdalwyr, dylent fod eisiau gweld elw o fuddsoddi, yn enwedig gan fod 90% o Gymru yn dir fferm.

·         Holodd John Griffiths am bresgripsiynu cymdeithasol; ymateb Rachel Sharp oedd bod angen gwneud mwy gyda hynny, yn enwedig gan fod hanner cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo ar gyfer iechyd.

·         Dywedodd Mark Steer, o Grŵp Ffwng Morgannwg, fod ffyngau'n aml yn cael eu hanwybyddu, a bod eu potensial o ddal a storio carbon yn aruthrol mewn glaswelltir heb ei wella. Cytunodd Rachel, gan bwysleisio pwysigrwydd eu perthnasau symbiotig.

·         Gan droi at ffynonellau cyllid, cyflwynodd Martyn Evans o Cyfoeth Naturiol Cymru yr achos dros gyllid cyfunol a chael mwy allan o gyllid preifat. Cyfeiriodd at lansiad y Cynllun Corfforaethol newydd sydd ar ddod (a ddisgwylir ym mis Mai), gan ddweud mai'r hinsawdd, natur a llygredd yw eu tair blaenoriaeth. Ychwanegodd eu bod hefyd am wneud yn well am gydweithio â'r rhai sydd mewn sefyllfa well mewn ardaloedd penodol, gyda Natur am Byth yn enghraifft wych o gydweithio ar adfer rhywogaethau. 

·         Dywedodd Eben Muse o Gyngor Mynydda Prydain fod mynediad wedi bod yn sownd mewn "limbo deddfwriaethol" am gyfnod, gan fynegi siom a gobeithio am fwy o flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Dywedodd nad yw hyn wedi cael sylw priodol yn y Bil Amaethyddiaeth chwaith. Cytunodd Tessa Marshall, o WWF, mai'r Bil yw'r cyfle presennol gorau ac roedd yn siomedig nad yw 'adfer bioamrywiaeth' wedi'i gynnwys hyd yma ac nad yw'n adlewyrchu brys yr argyfwng natur.

·         Cododd Kate Rees o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y Bil Natur Bositif sydd wedi’i oedi ac a fyddai'n gosod targedau natur. Gofynnodd i John Griffiths a oedd yn credu y byddai'n cael ei flaenoriaethu yng nghyhoeddiad deddfwriaethol yr haf. Dywedodd John nad oedd yn gwybod ond y byddai'n sicr yn hoffi ei weld yn fuan.

·         Cytunodd Martyn nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud digon i sicrhau bod y safleoedd gwarchodedig mewn cyflwr da, ond roedd yn falch o weld bod yr Archwiliad Dwfn diweddar ar Fioamrywiaeth yn canolbwyntio ar hyn a’u gwneud yn fwy cadarn. Dywedodd fod gorfodi yn erbyn llygredd hefyd yn ffordd o gynyddu'r cyllid i’w sianelu'n ôl i fyd natur, a dywedodd y dylai fod dirwyon uwch i weithredu fel anghymhelliad gwell. Cytunodd Rachel, gan ddweud bod angen gwella hyn yn unol â'r egwyddor 'y llygrwr sy’n talu'.

·         Roedd peth trafodaeth ar ynni adnewyddadwy, ond pwysleisiodd Rachel yr angen i gynllunio mewn cytgord â byd natur, gan siarad am bwysigrwydd Cynllun Datblygu Morol i gynnwys elfennau gofodol mewn datblygiadau. Dywedodd y gellid gwneud mwy ar gyfer cynlluniau lleol a bod rhaid i gynlluniau alltraeth mwy fynd i'r afael ag effeithiau cronnol. Cytunodd Chloe Wenman, o’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, y bydd y safbwynt strategol hwn yn hanfodol ar gyfer cydbwyso'r galwadau amrywiol ar y môr yn y degawd nesaf.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 [HS(CyS|SC1]Angen newid y linc hwn ar WF